Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 27 Tachwedd 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:10 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Ben Arnold, Cynghorwr Polisi, Addysg Uwch Cymru Dr David Blaney, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Professor John Hughes, Prifysgol Bangor Celia Hunt, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Stephanie Lloyd, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru Bethan Owen, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Kieron Rees, Swyddog Polisi a Chynrychiolaeth, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Amanda Wilkinson, Addysg Uwch Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Helen Jones (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Addysg Uwch Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru, Ben Arnold, Cynghorwr Polisi i Addysg Uwch Cymru,
Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Bethan Owen, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Sefydliadol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a Celia Hunt, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg a Chyllid, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ynghylch cyllido addysg uwch.
Camau gweithredu:
2.1 Cytunodd Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch:
· Data ar gymhariaethau rhanbarthol
· Nifer y myfyrwyr AAB neu well sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor
· Faint yn llai o fyfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
· Data ar werth am arian o ran myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru
2.2 Cytunodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch:
· Y tueddiadau o ran myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr (pan fo’r wybodaeth ar gael)
· Nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
3 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Stephanie Lloyd, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru a Keiron Rees, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, ynghylch cyllido addysg uwch.
Camau gweithredu:
2.1 Cytunodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch dadansoddi gwaith ymchwil sydd i ddod ar gymorth i fyfyrwyr, pan fo hynny ar gael yn y flwyddyn newydd
4 Papurau i’w nodi
4.1 Nodwyd y papurau.
4.1 Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15: Llythyr gan Angela Burns AC
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad i gyllido addysg uwch.
7 Y Bil Tai (Cymru)
7.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i wahodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i un o gyfarfodydd y Pwyllgor fel y gallai’r Aelodau ei holi ynghylch materion ariannol y Bil.
8 Ymateb cychwynnol Llywodraeth y DU i Gomisiwn Silk Rhan 1
8.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i wneud gwaith pellach mewn perthynas â hyn.